Ar gyfer Rhieni
The Buzz yw gwefan gyffrous newydd y NDCS sydd wedi'i chynllunio’n arbennig ar gyfer plant a phobl ifainc byddar rhwng 8 a 18 oed. Mae dau safle – un ar gyfer plant (8 – 11 oed) ac un ar gyfer pobl ifainc yn eu harddegau (12 i 18 oed).
Pam rydyn ni wedi creu’r wefan hon?
Gyda’ch help, gofynnodd yr NDCS i bron 1,500 o blant a phobl ifainc byddar am y gwasanaethau yr hoffen nhw eu cael gan NDCS. Roedd 90 y cant o’r bobl ifainc byddar a holwyd eisiau gwefan bwrpasol i bobl ifainc byddar.
Beth bydd cynnwys y wefan?
Mae The Buzz yn rhoi cyfle ichi a’ch plentyn byddar chwarae gemau a dod o hyd i ddigwyddiadau yn agos i ble rydych chi’n byw.
Mae llawer iawn o Gemau rhyngweithiol llawn hwyl i'w chwarae a gall eich plentyn ddewis a storio eu hoff gemau i'w chwarae eto.
Gall eich plentyn byddar bleidleisio yn ein Harolygon i weld pwy arall sy’n meddwl yr un peth!
Mae’r adran Digwyddiadau yn rhestru llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous ledled y Deyrnas Unedig a redir gan y NDCS drwy gydol y flwyddyn ar gyfer plant a phobl ifainc byddar. Dyluniwyd ein digwyddiadau i gyd - sy'n cynnwys gweithgareddau chwaraeon, gweithdai celf, gwersylla, gwyliau a chyrsiau datblygiad personol - i helpu plant a phobl ifainc byddar i gwrdd ag eraill a gwneud ffrindiau, i roi sgiliau bywyd iddyn nhw ac i wella eu hunan-barch.
Pan fydd eich plentyn yn troi’n 12 oed, anogwch nhw i ymaelodi â’r safle pobl ifainc sydd ar gyfer pobl ifainc 12-18 oed. Byddan nhw’n gallu darllen am bethau cŵl, edrych ar ein hadran gwybodaeth a chyngor, chwilio am ffrindiau newydd a sgwrsio am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Rydym yn croesawu unrhyw gwestiynau neu adborth sydd gennych am y wefan drwy e-bost yn buzz@ndcs.org.uk
